Siopwyr
Mae Llywodraeth Cymru yn dymuno lleihau'n sylweddol nifer y bagiau a roddir i bobl yng Nghymru. Felly ers 1 Hydref 2011, rhaid talu o leiaf 5c am fag untro lle bynnag y byddwch yn siopa yng Nghymru.
Dylai’r tâl o 5c fod yn ddigon uchel i leihau nifer y bagiau a roddir am ddim heb roi gormod o bwysau arnoch na’ch atal rhag siopa pryd bynnag y mynnwch.
Codir tâl arnoch am fag lle bynnag y byddwch yn siopa. Ond nid oes rhaid i unrhyw un dalu’r tâl. Gallwch osgoi’r tâl drwy fynd â’ch bagiau eich hunan gyda chi i siopa.
Beth yw bag siopa untro?
Mae bagiau siopa untro’n cael eu rhoi i bobl i gludo’r nwyddau y maent wedi’u prynu. Nid ydynt wedi’u gwneud i gael eu hailddefnyddio. Gall bagiau siopa untro fod wedi’u gwneud o ddeunyddiau fel:
- plastig;
- papur; neu
- ddeunydd sy’n deillio o blanhigion, fel starts.
Defnyddir bagiau siopa untro i gludo nwyddau rydych yn eu prynu ar y we hefyd weithiau.
Beth yw’r broblem gyda bagiau siopa untro?
Cyn cyflwyno’r tâl, roeddem yn debygol o dderbyn o leiaf un bag am ddim wrth siopa. Yna, roeddem yn derbyn un arall y tro canlynol. Unwaith yn unig y byddwn yn eu defnyddio fel arfer, sy’n wastraff adnoddau ac yn gallu achosi problem sbwriel.
Mae 80% o siopwyr Prydain yn rhoi popeth mewn bagiau siopa a roddir iddynt am ddim. Gallai siopwyr y DU fod yn mynd trwy gynifer â 60 bag bob mis. Mae hynny’n 720 bag y flwyddyn, neu dros 43,000 yn eu hoes!
Mae llawer o fagiau siopa untro wedi’u gwneud o blastig sy’n deillio o olew – adnodd nad yw’n adnewyddadwy. Gall pob bag plastig gymryd hyd at 500-1,000 o flynyddoedd i bydru, ac mae’n bosibl na fyddant byth yn pydru mewn safleoedd tirlenwi.
Nid yw bagiau papur yn ddewis mwy ecogyfeillgar. Maen nhw hefyd yn wastraff adnoddau naturiol.
Mae hyd yn oed bagiau bioddiraddadwy a chompostadwy, a wnaed o starts, yn defnyddio adnoddau naturiol. Os cânt eu defnyddio ar un trip siopa yn unig, heb eu compostio, byddant yn fwy o wastraff adnoddau na bagiau plastig confensiynol hyd yn oed.
Mae pob bag siopa untro, beth bynnag y mae wedi’i wneud ohono, yn wastraff adnoddau, oherwydd bydd angen y canlynol:
- y deunydd crai i’w creu;
- yr ynni i’w cynhyrchu – sy’n achosi allyriadau;
- eu cludo;
- eu gwaredu.
Beth sy’n digwydd i fagiau siopa untro?
Mae llawer yn troi’n sbwriel. Yn ôl Cadwch Cymru’n Daclus, ceir 3.4 bag plastig ym mhob cilogram o sbwriel yng Nghymru. Mae hynny’n cyfateb i oddeutu 2.7% o bwysau’r holl sbwriel. Amcangyfrifir ei bod yn costio £1 miliwn i awdurdodau lleol lanhau’r llanast a achosir gan fagiau plastig yng Nghymru bob blwyddyn.
Mae 86% o fagiau siopa untro yn mynd i safleoedd tirlenwi yn y diwedd.
Y rhesymau am y tâl
Yn ystod 2009-10 yng Nghymru, amcangyfrifir ein bod wedi mynd â 350 miliwn o fagiau siopa adref o’r archfarchnadoedd mawr. Mae hynny’n cyfateb i 273 bag i bob cartref – nifer syfrdanol! Nid yw hynny’n cynnwys bagiau o siopau ar y stryd fawr a siopau bach.
Mae aelodau Consortiwm Manwerthu Prydain wedi dod i gytundeb gwirfoddol i leihau nifer y bagiau siopa untro gan 50% erbyn mis Mai 2009 (o gymharu â mis Mai 2006). Y siopau a lofnododd y cytundeb oedd:
- Tesco;
- Asda;
- Marks & Spencer;
- Co-operative Group;
- Somerfield;
- Archfarchnadoedd Sainsbury; a
- Waitrose.
Roedd eu canlyniadau ym mis Awst 2010 yn dangos bod y targed gwirfoddol wedi’i gyrraedd yng Nghymru. Ond roedd pethau’n dechrau arafu ac roeddem yn parhau i ddefnyddio llawer gormod o fagiau. Cynyddodd y defnydd o fagiau siopa untro yn y DU rhwng mis Mai 2009 a mis Mai 2010. Mae ffigurau Gorffennaf 2012 yn dangos bod y defnydd o fagiau siopa untro wedi cynyddu eto yn Lloegr a Gogledd Iwerddon yn ystod 2011, ond wedi lleihau yng Nghymru.
Yn ôl ystadegau a ryddhawyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf 2012, mae 13 manwerthwr wedi llwyddo i sicrhau gostyngiad o 35-96% yn nifer y bagiau siopa untro.
Polisi
I gael mwy o wybodaeth am bolisïau Llywodraeth Cymru ar fagiau siopa untro, ewch i wefan Llywodraeth Cymru.
Ym mis Gorffennaf 2012, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru adroddiad gwerthuso ar gyflwyno’r tâl ac ystadegau bras o’r gostyngiad.
Ewch i: Tudalennau gwe Llywodraeth Cymru ar fagiau siopa untro (dolen allanol)



